Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-15-12 papur 8
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ymweliad â Thŷ Bethel, Dinas Powys (28 Mawrth 2012)
Cefndir
1. Fel rhan o’r ymchwiliad i ofal preswyl ar gyfer pobl hŷn, aeth aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ymweliad â Thŷ Bethel yn Ninas Powys ar 28 Mawrth 2012.
2. Cyfarfu aelodau’r Pwyllgor â staff a phreswylwyr Tŷ Bethel yn ystod yr ymweliad. Diben yr ymweliad oedd:
· Ymweld â chartref gofal preswyl sy’n fwy traddodiadol a sefydledig a thrafod â staff pa heriau sy’n eu hwynebu wrth ddarparu gofal preswyl.
3. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ymweld â Thŷ Bethel gan Brian West, sef Cadeirydd Cymdeithas Cartrefi Gofal Bro Morgannwg.
4. Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb o’r prif bwyntiau a nodwyd yn ystod ymweliad y Pwyllgor.
Gwybodaeth am Dŷ Bethel
5. Caiff Tŷ Bethel ei redeg o fewn ethos Cristnogol, ac fe’i sefydlwyd fel rhan o ganolfan Neuadd Hebron. Mae lle i 39 o breswylwyr aros yno, ac mae darpariaeth ar gyfer saith gwely i henoed bregus eu meddwl. Nid yw hwn yn gartref sy’n anelu at wneud elw.
6. Daw pobl i’r cartref am amrywiaeth o resymau – er enghraifft, bydd rhai pobl yn dewis y cartref oherwydd eu crefydd, a bydd eraill yn ei ddewis oherwydd ei leoliad.
7. Mae oed cyfartalog y preswylwyr wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf; mae’r mwyafrif yn eu nawdegau bellach. Mae perchnogion y cartref wedi sylwi ar dueddiad i annog pobl i aros gartref am gyhyd â phosibl y dyddiau hyn, yn hytrach na chael gofal.
8. Clywodd yr
Aelodau sut y bydd Tŷ
Bethel yn ceisio mynd i’r afael â’r pryder mewn
pobl, sy’n gysylltiedig â symud i ofal preswyl, drwy
geisio egluro mai cartref y preswylydd ydyw, ac y dylid ystyried
bod yr unigolyn wedi symud tŷ wrth ddod
i’r cartref. Mae’r perchnogion yn ymwybodol mai ychydig
o bobl sy’n edrych ymlaen at symud i gartref preswyl, ond
o’u profiad hwy, unwaith y bydd rhywun wedi setlo yn y
cartref, bod tuedd iddynt fod yn llawer hapusach ac iachach am
nifer o resymau, er enghraifft byddant yn fwy tebygol o gymryd eu
moddion yn rheolaidd, a bydd ganddynt ragor o gysylltiad rheolaidd
gydag amrywiaeth o bobl ynghyd â rhagor o gyfleoedd i gymryd
rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.
9. Mae Tŷ Bethel newydd benodi cydgysylltydd gweithgareddau, a fydd yn datblygu’r amrywiaeth o weithgareddau sydd ganddynt yn y cartref ar hyn o bryd, sy’n cynnwys ‘munud i feddwl’ bob dydd, gwasanaeth ar y Sul, a gweithgareddau crefft. Hefyd, bydd siop leol yn galw yn y cartref yn rheolaidd.
Staffio a hyfforddi
10. Cyflogir 40 o bobl yn y cartref, a byddant yn gweithio shifftiau. Dywedodd perchnogion Tŷ Bethel wrth aelodau’r Pwyllgor nad ydynt wedi cael fawr o broblemau o ran recriwtio a chadw staff, ac maent o’r farn mai’r gyfradd gyflog a gynigir ganddynt, a’r sefyllfa gyflogaeth ar hyn o bryd, sydd i gyfrif am hynny.
11. Bu nifer o ddatblygiadau o ran lefel yr hyfforddiant ar gyfer staff, sydd wedi newid disgwyliadau pobl. Awgrymwyd bod darparu cymwysterau NVQ yn gam da, ond nad oedd pawb a oedd yn gweithio yn y sefyllfa ofal yn awyddus i wneud hyn.
12. Fel rhan o’r ymweliad, bu’r Aelodau’n sgwrsio â Kay, sydd wedi gweithio yn y cartref am 18 mlynedd. Penderfynodd hi ymgymryd â’r proffesiwn gofalu yn dilyn ei phrofiadau o ofalu am ei mam, a’i hawydd i roi’r un gofal i bobl eraill. Roedd hi o’r farn fod hwn yn le gwych i weithio, ac mai dulliau rheoli’r cartref oedd i gyfrif am hyn. Teimlai bod awyrgylch cadarnhaol yn y cartref hefyd, oherwydd bod y preswylwyr yn ofalus o’i gilydd, a’u bod yn ystyried eu bod yn rhan o deulu mawr - er enghraifft, maent yn cynllunio i gynnal parti stryd ar gyfer dathliadau’r jiwbilî diemwnt eleni.
Cofrestru Gofal Preswyl a Gofal Nyrsio ar y Cyd
13. Dywedwyd wrth yr Aelodau, yn Nhŷ Bethel, y nod yw ceisio cadw ffocws ar bobl amser, hyd yn oed pan fydd dementia yn datblygu. I wneud hyn, byddant yn ceisio asesu anghenion gofal preswylwyr ac ystyried yr anghenion hynny wrth ddarparu ar eu cyfer, a byddent yn symud rhywun i gyfleuster arall dim ond os na fyddai dim dewis arall ar gael.
14. Dyweodd perchnogion Tŷ Bethel y byddent yn annog y cam i gofrestru gofal preswyl a gofal nyrsio ar y cyd, er mwyn cynorthwyo i fynd i’r afael a’r problemau sy’n deillio o symud pobl pan fyddant wedi setlo. Dywedasant y gall fod yn anodd iawn gyda chyplau, sy’n cael eu gwahanu yn y diwedd yn aml; ond, yn Nhŷ Bethel byddant yn ceisio cadw cyplau gyda’i gilydd, hyd yn oed os bydd un cymar wedi cael diagnosis o salwch sy’n gofyn am ofal nyrsio.
Ariannu a rheoleiddio
15.
Clywodd yr Aelodau y bydd yr Awdurdod Lleol yn ceisio prynu
gwasanaethau gofal ar y gyfradd rataf bosibl, a all arwain at
frwydr bob blwyddyn i leihau’r gwahaniaeth pris rhwng y gwir
gost a’r hyn y bydd yr Awdurdod Lleol yn fodlon ei dalu. Dim
ond saith bunt yw’r gwahaniaeth eleni, a gellir ymdopi
â hwn, ond yn y gorffennol bu’r gwahaniaeth gymaint
â £30 yr wythnos.
16. Roedd cynrychiolwyr o’r cartref yn sôn sut y dylid ceisio cael rhywfaint o hyblygrwydd o ran rheoliadau, a chanolbwyntio’n well ar y gofal o bobl -er enghraifft, rhaid cael pum ystafell ymolchi yn Nhŷ Bethel, gan fod 40 o breswylwyr yno, ond nid oes ganddynt y lefelau staffio ar gyfer defnyddio’r holl ystafelloedd ymolchi ar yr un pryd beth bynnag.